![]() | |
Enghraifft o: | math o ffenomen meteorolegol ![]() |
---|---|
Math | electrical breakdown, electro-sêr, electromagnetic pulse, ffenomen meteorolegol ![]() |
Rhan o | storm ![]() |
Yn cynnwys | dadwefriad ![]() |
Hyd | 125 ±75 ![]() |
![]() |
Gollyngiad o drydan yn yr awyr a achosir gan grynhoi siarsau trydanol mewn cwmwl mewn canlyniad i ffrithiant gronynnau yn erbyn ei gilydd yn y cwmwl a phrosesau eraill yw mellten (lluosog: mellt).
Mae'r egni a ryddheir felly yn gallu bod yn anferth, hyd at 1,000 miliwn folt. Rhaid i'r egni hwnnw gael ffordd i dorri'n rhydd, a gwneir hynny fel mellten, naill ai rhwng cymylau neu o gwmwl i wyneb y ddaear. Taran yw'r glec fyddarol a greir wrth i'r egni ymollwng i'r awyr. Am fod y ddau ffenomonen yn digwydd gyda'i gilydd fel rheol, cyfeirir atynt fel 'mellt a tharannau'.