Melltith

Am y traddodiad priodas, gweler melltith (priodas).
Menyw yn cynnal seremoni felltith ddefodol, gan Hokusai.

Dymuniad o adfyd neu anlwc ar endid arall, megis person, lleoliad, neu wrthrych, yw melltith. Gan amlaf gelwir ar rymoedd goruwchnaturiol i weithredu'r felltith, megis swyngyfaredd, gweddi, neu ysbryd.[1]

Bydd person yn aml yn galw ar rym goruwchnaturiol trwy fformiwlâu hudol neu swynion mewn iaith hynafol. Gall y grym fod yn ddwyfol, neu'n amlach yn gythreulig, ond gyda phob melltith yr unig ffordd i'w churo yw i alw ar rym cryfach trwy ddull lleddfol megis aberth.[2]

  1. Andreas Dorschel, 'Entwurf einer Theorie des Fluchens', Variations 23 (2015), 167-175
  2. Jones, Alison. Larousse Dictionary of World Folklore (Caeredin, Larousse, 1995), t. 131 [curse].

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne