Bwyd wedi ei wneud yn bennaf o gnau mwnci wedi eu rhostio a'u malu yw menyn cnau mwnci, gyda halen a siwgr fel arfer. Er bod modd ei wneud gartref, mae ei brynu fel bwyd parod yn fwy cyffredin. Mae dau brif fath o fenyn cnau mwnci, menyn llyfn, a menyn mwy crensiog. I wneud menyn llyfn, caiff y cnau mwnci eu malu yn fân nes eu bod yn bâst; nid yw'r cnau yn cael eu malu mor fân wrth wneud menyn crensiog.
Mewn brechdanau neu ar dost y defnyddir menyn cnau mwnci yn bennaf. Gan mai cnau yw'r prif gynhwysyn, mae'n fwyd iachus, yn cynnwys protein a braster mono-annirlawn.