Enghraifft o: | brîd o geffylau |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Yn cynnwys | Merlyn Cymraeg (Adran B), Merlyn mynydd Cymreig, Merlyn Gymreig o deip y cob, Cob Cymreig, Welsh Part-Bred |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir pedwar brîd o ferlod Cymreig (Adran A - D) ac mae eu pedigri wedi'i gofnodi'n eitha manwl gan Gymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig sef cymdeithas bridiau cynhenid mwyaf gwledydd Prydain. Sefydlwyd y gymdeithas yn 1901 a chyhoeddodd gyfrol Welsh Stud Book flwyddyn yn ddiweddarach sy'n cynnwys y manylion bridio hyn mewn pedair Adran o ferlen neu gob Cymreig. Gall y merlod a'r cobiau fod o unrhyw liw ar wahân i frithliw, coch neu wyn.