![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 267, 279 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,467.42 ha ![]() |
Gerllaw | Afon Ogwr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4856°N 3.6103°W ![]() |
Cod SYG | W04000885 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Elmore (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Merthyr Mawr. Fe'i lleolir rhai milltiroedd i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr, ar lan ogleddol Afon Ogwr.
Ystyr y gair merthyr yn yr enw yw 'eglwys (ar feddrod sant)'. Ceir croesau eglwysig wedi'u cofrestru gan Cadw yn yr eglwys, sef Croes Merthyr Mawr a Croes Tythegston.
Gerllaw'r pentref ceir Tywyn Merthyr Mawr, lle saethwyd rhai golygfeydd i'r ffilm enwog Lawrence of Arabia. Dyma'r ail dywyn mwyaf yn Ewrop, o ran uchder.
Yn ogystal mae dau gastell canoloesol, Castell Ogwr a Castell Candleston, yn daith gerdded hawdd i ffwrdd. Y pentref agosaf yw Ewenni, lle ceir Priordy Ewenni.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Chris Elmore (Llafur).[1][2]