![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cynog Ferthyr ![]() |
Poblogaeth | 245 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,201.37 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0167°N 3.4833°W ![]() |
Cod SYG | W04000330 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Merthyr Cynog.[1] Saif yn ardal Brycheiniog, ar lethrau deheuol Mynydd Epynt rhwng afonydd Ysgir Fawr ac Ysgir Fechan, ffrydiau sy'n ymuno yn nes i lawr i ffurfio afon Ysgir, un o ledneintiau afon Wysg.
Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, 6 milltir i'r de-ddwyrain. Y pentref cyfagos yw Llanfihangel Nant Brân, dros y bryn i'r gorllewin, a'r Capel Uchaf i'r gogledd-ddwyrain.
Ystyr y gair merthyr yma yw "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)." Cysylltir y plwyf â Chynog Ferthyr, sant a mab hynaf Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Yn ôl traddodiad, lladdwyd Cynog gerllaw a chodwyd eglwys ar ei fedd. Ymhlith y lleoedd eraill a gysylltir â'r sant ceir Defynnog, tua 5 milltir i'r de-orllewin, ger Pontsenni.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]