Metel

Metel
Mathdeunydd, deunydd hydrin, aloi, defnydd anorganig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysElfen drosiannol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae metel (lluosog: metelau) yn fath o elfen (caled fel arfer) gyda phriodweddau penodol. Mae metelau yn elfennau gydag egnïon ïoneiddiad isel, sy'n eu galluogi i ffurfio catïonau yn hawdd ac yn arwain at fath o fondio a elwir yn bondio metelig. Oherwydd y bondio yn yr elfennau hyn, mae ganddynt briodweddau nodweddiadol. Er bod anfetelau yn bresennol mewn canrannau uwch ar y ddaear, mae dros hanner yr elfennau naturiol yn fetelau. Yn y tabl cyfnodol mae'r metelau ar y chwith gyda llinell igam-ogam yn eu gwahanu'r o'r anfetelau. Mae'r llinell yn rhedeg o foron i boloniwm, gyda'r elfennau o amgylch y llinell yn metelffurfiau (lled-fetelau).

Crisialau galiwm

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne