Enghraifft o: | cangen economaidd, cangen o wyddoniaeth |
---|---|
Math | materials science |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr adran honno o wyddoniaeth deunyddiau sy'n ymwneud â metalau yw Meteleg' neu metaleg (Saesneg: metallurgy). Mae meteleg yn astudiaeth o gyfansoddion metelig a sut y maent yn cael eu cymysgu i greu aloi a hefyd yn ymwneud â thechnoleg h.y. sut mae metalau'n cael eu cymhwyso yn y byd mawr i bwrpas ymarferol. Mae'r gair yn tarddu o'r Groeg: μεταλλουργός, sef "y gweithiwr metel".
Mae gwaith metel yn adran ar wahân, sy'n ymwneud â hyn a gelwir y person sy'n gwneud y gwaith yn of.
Bathwyd y gair yn gyntaf yn 1593 gan alcemyddion megis y Cymro John Dee.