![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 10,800 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Levenmouth ![]() |
Sir | Fife ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 14 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 56.1844°N 3.0223°W ![]() |
Cod OS | NT365995 ![]() |
Cod post | KY8 ![]() |
![]() | |
Tref yn awdurdod unedol Fife, yr Alban, ydy Methil[1] (Gaeleg yr Alban: Meadhchill).[2] Saif ar yr arfordir yn edrych dros Foryd Forth, rhwng Buckhaven i'r gorllewin a Leven i'r dwyrain. Mae Afon Leven yn gwahanu Methil a Leven.
Roedd Methil gynt yn un o borthladdoedd pwysicaf y rhanbarth. Yn hanesyddol, codi glo oedd prif ddiwydiant yr ardal, a byddai rhan fwyaf o’r glo’n cael ei allforio drwy ddociau Methil. Rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd allforiwyd dros 3,000,000 o dunelli’r flwyddyn drwy'r dociau. Rhwng 1960 a 2011 safai Gorsaf Bŵer Methil, a oedd yn cael ei thanio gan slyri glo, wrth aber Afon Leven.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Methil boblogaeth o 11,010.[3]