Mae Metroid Prime yn gêm fideo antur person-cyntaf a ddatblygwyd gan Retro Studios a Nintendo ar gyfer gêm fideo consol GameCube.[1][2]
Fe'i rhyddhawyd yng Ngogledd America ar 17 Tachwedd 2002, ac yn Japan ac Ewrop y flwyddyn ganlynol. Metroid Prime yw'r pumed gêm yn y gyfres Metroid, a'r gêm Metroid cyntaf i ddefnyddio graffeg gyfrifiadurol 3D. Gan fod ymchwilio'n cymryd blaenoriaeth dros ymladd, mae Nintendo yn dosbarthu'r gêm fel 'gêm antur' yn hytrach na 'gêm saethwr'. Ar yr un diwrnod ag y rhyddhawyd Metroid Prime yng Ngogledd America, rhyddhaodd Nintendo 'Game Boy Advance', Metroid Fusion, gan ddychwelyd at y gyfres Metroid ar ôl seibiant o wyth mlynedd yn dilyn Super Metroid (1994).[3]
|dead-url=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)