Michael Collins | |
---|---|
Ganwyd | 16 Hydref 1890 Clonakilty |
Bu farw | 22 Awst 1922 Droichead na Bandan |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol, gwladweinydd |
Swydd | Chairman of the Provisional Government of the Irish Free State, Gweinidog ariannol Iwerddon, Gweinidog Cyfiawnder a Chyfartaledd Iwerddon, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála |
Plaid Wleidyddol | Sinn Féin |
Partner | Kitty Kiernan |
llofnod | |
Roedd Michael John ("Mick") Collins neu Micheál Ó Coileáin (16 Hydref 1890 – 22 Awst 1922) yn arweinydd y gwrthryfel Gwyddelig yn erbyn Prydain ac yn Weinidog Cyllid a phennaeth y Lluoedd Arfog i Weriniaeth Iwerddon Ganed Michael Collins yn Sam's Cross, ger Clonakilty, Swydd Corc, Iwerddon, i deulu o ffermwyr gweddol gefnog. Roedd ei dad, hefyd yn Michael Collins, yn 60 oed pan briododd Marianne O'Brien. Cawsant wyth o blant, ond bu farw ei dad pan oedd Mick yn chwech oed. Gadawodd Colins yr ysgol yn bymtheg oed ac aeth i Lundain i chwilio am waith. Yno ymunodd a'r Frawdoliaeth Weriniaethol Wyddelig (IRB), cymdeithas oedd yn ymladd am annibyniaeth Iwerddon.