Michael D. Jones | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1822 Llanuwchllyn |
Bu farw | 2 Rhagfyr 1898 y Bala |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, prifathro coleg |
Tad | Michael Jones |
Priod | Anne Lloyd Jones |
Plant | Llwyd ap Iwan, Mihangel ap Iwan |
Gweinidog a phrifathro Coleg y Bala, arloeswr a chenedlaetholwr Cymreig o'r Bala oedd Michael Daniel Jones (2 Mawrth 1822 – 2 Rhagfyr 1898). Mae'n cael ei adnabod yn bennaf am ei gyfraniad i sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia ym 1865. Cymerodd ran mewn ymgyrchoedd gwleidyddol a chymdeithasol, ac roedd ymhlith y cyntaf yn y cyfnod modern i alw am hunanlywodraeth i Gymru.