Michael Jackson

Michael Jackson
GanwydMichael Joseph Jackson Edit this on Wikidata
29 Awst 1958 Edit this on Wikidata
Gary Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 2009 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Man preswylNeverland Ranch Edit this on Wikidata
Label recordioEpic Records, Sony Music, Motown Records, Universal Music Group, Sony BMG, Legacy Recordings, Steeltown Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Montclair College Preparatory School Edit this on Wikidata
Galwedigaethdawnsiwr, canwr-gyfansoddwr, person busnes, dyngarwr, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, hunangofiannydd, cynhyrchydd recordiau, actor ffilm, actor, entrepreneur, artist recordio, canwr, actor llais, casglwr celf, cyfansoddwr caneuon, model, bardd, cyfansoddwr, trefnydd cerdd, coreograffydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOff the Wall, Thriller, Bad, Dangerous, HIStory (albwm) Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth ddawns, disgo, cerddoriaeth roc, y felan, rhythm a blŵs, ffwnc, new jack swing, hip hop, cerddoriaeth roc caled, urban contemporary, samba, pop dawns Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSammy Davis Jr., James Brown, Charles Chaplin, Fred Astaire, Diana Ross, Sam Cooke, Sly Stone, Jackie Wilson, Marcel Marceau, The Beatles Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
TadJoe Jackson Edit this on Wikidata
MamKatherine Jackson Edit this on Wikidata
PriodLisa Marie Presley, Debbie Rowe Edit this on Wikidata
PlantPrince Michael Jackson I, Paris Jackson, Prince Michael Jackson II, B Howard Edit this on Wikidata
LlinachJackson family Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy Legend, International Artist Award of Excellence, Gwobr Genesis, Grammy Award for Best Male R&B Vocal Performance, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Gwobr Grammy am y Perfformiad Lleisiol Pop Gorau gan Ddynion, Grammy Award for Record of the Year, Grammy Award for Best Male Rock Vocal Performance, Grammy Award for Best Album for Children, Gwobr Gammy Cynhyrchydd y Flwyddyn, nid Clasurol, Grammy Award for Best Music Film, Grammy Award for Song of the Year, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, gwobr Johnny Mercer, Grammy Award for Best R&B Song, Grammy Award for Best Male R&B Vocal Performance, Officer of the National Order of Merit, Medal of the City of Paris, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, American Choreography Awards, Rock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.michaeljackson.com Edit this on Wikidata
llofnod

Canwr pop, diddanwr a dyn busnes o'r Unol Daleithiau oedd Michael Joseph Jackson (29 Awst 195825 Mehefin 2009). Ganwyd yn Gary, Indiana, ac roedd Michael Jackson y seithfed mab yn nheulu'r Jacksons. Dechreuodd ganu'n broffesiynol pan oedd yn 11 oed trwy ganu gyda'r grŵp Jackson 5, ar gyfer cwmni recordiau Motown yn ystod y chwedegau. Dechreuodd recordio ar ei ben ei hun yn 1971 er ei fod yn dal yn aelod o'r grŵp.

Caiff ei alw'n 'Frenin Pop'. Daeth pump o'i albymau stiwdio unawdol yn rhai o'r albymau mwyaf llwyddiannus y byd pop; Off the Wall (1979), Thriller (1982), Bad (1987), Dangerous (1991) a HIStory (1995).

Ar ddechrau'r 1980au daeth Jackson yn gymeriad amlwg ym myd cerddoriaeth boblogaidd, trwy fod yn un o'r diddanwyr African-Americanaidd cyntaf i lwyddo yn y brif ffrwd gerddorol. Gweddnewidiodd y fideo cerddorol i mewn i ryw fath o gelfyddyd, gyda fideos megis "Beat It", "Billie Jean" a "Thriller" yn hynod boblogaidd ar y sianel MTV. Sicrhaodd fideos Jackson, megis "Black or White" a "Scream" ei fod yn parhau i gael ei weld yn rheolaidd ar MTV yn ystod y '90au. Gyda'i berfformiadau byw a'i gynyrchiadau fideo, daeth technegau dawnsio Jackson a phoblogrwydd iddo, wrth iddo boblogeiddio symudiadau fel y "robot" a'r "moonwalk". Dylanwadodd ei gerddoriaeth a'i lais unigryw ar nifer o artistiaid hip hop, pop ac R&B cyfoes.

Mae Jackson wedi cyfrannu a helpu i godi miliynau o ddoleri at achosion da trwy ei sefydliad, senglau elusennol a'i gefnogaeth o 30 elusen. Fodd bynnag, mae elfennau eraill o'i fywyd personol, gan gynnwys y newid i'w bryd a'i wedd a'i ymddygiad afreolus, wedi niweidio ei ddelwedd gyhoeddus. Er iddo gael ei gyhuddo o gam-drin plant yn rhywiol ym 1993, caewyd yr achos troseddol yn sgil diffyg tystiolaeth ac ni chafwyd achos yn ei erbyn. Ar ôl hynny, priododd ddwywaith gan ddod yn dad i dri o blant. Mae'r canwr wedi dioddef problemau iechyd ers dechrau'r 1990au a cheir adroddiadau amrywiol am ei gyflwr ariannol ers diwedd y 1990au. Yn 2005, daethpwyd ag achos arall o gam-drin plant yn rhywiol yn ei erbyn, ynghyd â throseddau eraill ond cafodd ei ffeindio'n ddieuog.

Fel un o'r ychydig artistiaid sydd wedi ei gynnwys yn y Rock and Roll Hall of Fame ddwywaith, mae ei lwyddiannau eraill yn cynnwys nifer o Recordiau Guiness y Byd - gan gynnwys "Y Diddanwr Mwyaf Llwyddiannus Erioed", 13 Gwobr Grammy, 13 sengl yn cyrraedd Rhif 1 yn ei yrfa solo a gwerthiant o dros 750 miliwn o unedau yn fyd-eang. Mae bywyd personol Jackson, ynghyd â'i yrfa lwyddiannus wedi ei wneud yn rhan o ddiwylliant poblogaidd am bron i bedwar degawd. Caiff ei ystyried fel un o ddynion enwocaf y byd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne