Mihangel | |
---|---|
Darlun o Fihangel yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Dydd gŵyl | 8 Tachwedd, 29 Medi, 19 Medi, 21 Tachwedd |
Archangel yn nhraddodiad Iddewig, Cristnogol ac Islamaidd yw Mihangel. Gyda Gabriel, Raphael, Uriel ac eraill, mae'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw ac yn barod i'w hanfon fel ei negesyddion i'r dynolryw. Gyda Gabriel mae'n gwarchod drysau eglwysi rhag y Diafol.
Mae'r Eglwys Gatholig a rhai eglwysi eraill yn ystyried fod Mihangel yn sant hefyd. Daeth yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Cysegrwyd nifer fawr o eglwysi yng Nghymru i Fihangel; gweler Llanfihangel am restr o bentrefi, cymunedau a phlwyfi sy'n dwyn ei enw. Ef yw nawddsant dinas Brwsel a nawddsant nifer o alwedigaethau, yn cynnwys milwyr a phobwyr.
Yn Islam, Mikail (Mihangel) yw'r archangel sy'n cael ei anfon gan Allah i ddatgelu'r Corân i'r Proffwyd Muhammad.
Yn draddodiadol, diwrnod cysegredig Sant Mihangel oedd 29 Medi (calendr Iŵl, yn ddiweddarach 10 Hydref yng nghalendr Gregori)