Mihangel Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1955 Trecynon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, darlithydd |
Cyflogwr |
Mae Mihangel Morgan (ganwyd 7 Rhagfyr 1955, Trecynon)[1] yn awdur a bardd Cymraeg sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Newidiodd ei enw o Michael Finch i Mihangel Morgan yn ei ugeiniau cynnar, gan gymryd cyfenw ei fam cyn iddi briodi.[2] Bu'n geinlythrennydd (caligrapher) yn Rhuthun, Sir Ddinbych ar ddechrau'r 80au ac mae bellach yn byw ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion.
Daw'n wreiddiol o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf ac mae'n ddyn hoyw sy'n gwbl agored am ei rywioldeb.[3] Cafodd ei hyfforddi fel ceinlythrennydd a bu'n dysgu hyn i fyfyrwyr am flynyddoedd cyn graddio. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1993 gyda'i nofel Dirgel Ddyn a chafodd ei lyfr Digon o Fwydod ei enwi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.