Mike Parker Pearson | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mehefin 1957 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | archeolegydd, archaeolegydd cynhanes, academydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Fossil avian eggshell preserves ancient DNA |
Gwobr/au | Current Archaeology Archaeologist of the Year Award, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Fellow of the Society of Antiquaries of Scotland |
Gwefan | http://iris.ucl.ac.uk/iris/browse/profile?upi=MPARK87 |
Archaeolegydd o Loegr yw Michael George Parker Pearson, FSA, FSA Scot, FBA (ganwyd 26 Mehefin 1957)[1] Mae'n arbenigo yn Ynysoedd Prydain yn oes newydd y cerrig, Madagascar ac archeoleg marwolaeth a chladdu. Mae e'n athro yn Sefydliad Archaeoleg UCL. Bu'n gweithio am 25 mlynedd fel athro ym Mhrifysgol Sheffield. Roedd e'n un o gyfarwyddwr y Stonehenge Riverside Project oedd yn archwilio Côr y Cewri a'r ardal o'i gwmpas.[2]
Yn ystod 2017 a 2018, arweiniodd cloddiadau gan Parker Pearson a'i dîm UCL at gynnig bod safle yn Waun Mawn, ym Mryniau Preseli yn Sir Benfro, wedi bod yn gartref i gylch cerrig, â diamedr 110 metr, o'r un maint â'r ffos yng Nghôr y Cewri[3][4]. Roedd yr archeolegwyr hefyd yn rhagdybio bod y cylch hefyd yn cynnwys twll o un garreg (twll carreg 91) a oedd â siâp pentagonol nodedig, yn cyfateb yn agos iawn i'r un garreg bentagonaidd yng Nghôr y Cewri (carreg 62 yng Nghôr y Cewri).[3][5][6][7]