Mike Pence | |
---|---|
48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau | |
Mewn swydd 20 Ionawr 2017 – 10 Ionawr 2021 | |
Arlywydd | Donald Trump |
Rhagflaenwyd gan | Joe Biden |
Dilynwyd gan | Kamala Harris |
50fed Llywodraethwr Indiana | |
Mewn swydd 14 Ionawr 2013 – 9 Ionawr 2017 | |
Lieutenant | Sue Ellspermann Eric Holcomb |
Rhagflaenwyd gan | Mitch Daniels |
Dilynwyd gan | Eric Holcomb |
Aelod o'r Tŷ Cynrychiolwyr o Indiana | |
Mewn swydd 3 Ioanwr 2001 – 3 Ionawr 2013 | |
Rhagflaenwyd gan | David M. McIntosh |
Dilynwyd gan | Luke Messer |
Etholaeth | 2il ardal (2001–2003) 6ed ardal (2003–2013) |
Cadeirydd y Gynhadledd Weriniaethol y Tŷ | |
Mewn swydd 3 Ionawr 2009 – 3 Ionawr 2011 | |
Dirprwy | Cathy McMorris Rodgers |
Arweinydd | John Boehner |
Rhagflaenwyd gan | Adam Putnam |
Dilynwyd gan | Jeb Hensarling |
Manylion personol | |
Ganed | Michael Richard Pence 7 Mehefin 1959 Columbus, Indiana, U.D. |
Plaid gwleidyddol | Gweriniaethol |
Pleidiau eraill | Democrataid (cyn 1983)[1] |
Priod | Karen Batten (pr. 1985) |
Plant | 3 |
Perthnasau | Greg Pence (brawd) |
Addysg | Coleg Hanover (BA) Prifysgol Indiana, Indianapolis (JD) |
Llofnod | |
Gwefan | Gwefan Swyddogol |
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Michael Richard Pence (ganwyd 7 Mehefin 1959). Ef oedd 48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 2017 a 2021. Yn gyfreithiwr yn ôl galwedigaeth, gwasanaethodd fel Llywodraethwr Indiana rhwng 2013 [2] a 2017 ac fel aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau rhwng 2001 a 2013. Yn Weriniaethwr, cadeiriodd Gynhadledd Weriniaethol y Tŷ rhwng 2009 a 2011. Mae Pence yn gefnogwr hirhoedlog i'r mudiad Te Parti.[3][4]
Ar 14 Grffennaf 2016 dywedodd ymgyrch Donald Trump mai Pence fyddai dewis Trump ar gyfer partner yn etholiad arlywyddol 2016.[5] Aeth ymgyrch Trump-Pence ymlaen i drechu ymgyrch Clinton-Kaine yn yr etholiad Arlywyddol ar Dachwedd 8, 2016. Cafodd Pence ei urddo’n Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ar Ionawr 20, 2017.