Mikhail Kalinin | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1875 (yn y Calendr Iwliaidd) Verkhnaya Troitsa |
Bu farw | 3 Mehefin 1946 o canser colorectaidd Moscfa |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Yr Undeb Sofietaidd |
Galwedigaeth | gwleidydd, athro |
Swydd | member of the Presidium of the Supreme Soviet of the USSR, Aelod o Gynulliad Cyfansoddol Rwsia, Q61870366, Chairman of the Presidium of the Supreme Soviet of the Soviet Union, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, Candidate member of the Politburo of the CPSU Central Committee, member of the Supreme Soviet of the Byelorussian SSR of the 1st convocation |
Plaid Wleidyddol | Plaid Lafur Democrataidd-Sosialaidd Rwsia, Plaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia (Bolsiefic), Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Priod | Ekaterina Kalinina |
Gwobr/au | Medal "Am Fuddugoliaeth yr Almaen yn Rhyfel Gwladgarol 1941–1945, Urdd y Faner Goch, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd, Medal "Am Amddiffyn Moscfa", Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd y Faner Goch |
llofnod | |
Gwleidydd comiwnyddol Rwsiaidd oedd Mikhail Ivanovich Kalinin (7 Tachwedd [19 Tachwedd yn yr Arddull Newydd] 1875 – 3 Mehefin 1946) a fu'n bennaeth ar wladwriaeth yr Undeb Sofietaidd o 1919 i 1946: o 1919 i 1924 yn rhinwedd ei swydd yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Canolog Cyngres Holl-Rwsiaidd y Sofietiaid, o 1924 i 1938 yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Canolog yr Holl Undeb, ac o 1938 i 1946 dan y teitl cadeirydd Presidiwm y Sofiet Oruchaf.[1]
Ganwyd i deulu cefn gwlad yn Verkhnyaya Troitsa, talaith Tver, a symudodd i St Petersburg ym 1893 i weithio yn y ffatrïoedd. Ymunodd â Phlaid Ddemocrataidd-Gymdeithasol y Gweithwyr Rwsiaidd ym 1898 a chefnogodd Vladimir Lenin a'r Bolsieficiaid. Daeth yn aelod-ymgeisydd Pwyllgor Canolog y Bolsieficiaid ym 1912, ac fe gyd-sefydlodd y papur newydd Pravda.
Yn sgil Chwyldro Hydref 1917, daeth Kalinin yn faer Petrograd (St Petersburg). Ym Mawrth 1919 fe ddaeth yn bennaeth ar wladwriaeth yr Undeb Sofietaidd, ac ym 1925 yn aelod llawn o'r Politbiwro. Cafodd ei ddiswyddo ym Mawrth 1946, a bu farw ychydig misoedd yn ddiweddarach. Cafodd Königsberg ei hail-enwi'n Kaliningrad er cof amdano.