Math | dinas, cymuned wedi'i chynllunio, tref newydd, dinas fawr, garden city |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Milton Keynes |
Poblogaeth | 264,349 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Schwerte, Almere, Huai'an |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Buckingham (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 88 km² |
Uwch y môr | 102 metr |
Gerllaw | Afon Great Ouse |
Yn ffinio gyda | Deanshanger |
Cyfesurynnau | 52.03°N 0.77°W |
Cod OS | SP841386 |
Cod post | MK1 - 15 |
Tref yn Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, ydy Milton Keynes.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Central Milton Keynes yn awdurdod unedol Bwrdeistref Milton Keynes. Saif tua 45 milltir i'r gogledd-orllewin o Lundain.
Cafodd ei dynodi yn dref yn swyddogol am y tro cyntaf ym 1963. Roedd yn dref newydd a chafodd ei chynllunio gyda'r potiensial i dyfu'n ddinas yn y pen draw, gan gyfuno trefi Bletchley, Wolverton a Stony Stratford a phymtheg o bentrefi a nifer o ffermydd rhyngddynt. Bletchley oedd lle dadansoddwyd peiriannau Enigma oedd wedi'u cipio oddi wrth y Natsiaid, er mwyn datrys eu negeseuon cyfrin. Cymerodd y dref ei henw o bentref Milton Keynes, a leolwyd ychydig o filltiroedd i'r dwyrain o ganol y dref newydd.
Mae Caerdydd 177.7 km i ffwrdd o Milton Keynes ac mae Llundain yn 72.4 km. Y ddinas agosaf ydy St Albans sy'n 42.4 km i ffwrdd.
Mae'n enwog am ei nifer fawr o gylchfannau. Bottledump Roundabout ydy enw un o'r cylchfannau hyn.