Minerva | |
---|---|
Duwies barddoniaeth, meddyginiaeth, masnach, gwehyddu, y crefftau, a doethineb | |
Aelod o 'r Triawd Capitolaidd a'r Dii Consentes | |
Ffresgo o Minerva o Herculaneum (Canrif 1af AD) | |
Enwau eraill | Môn yn Gymraeg |
Symbolau | Tylluan Minerva, yr olewydden, sarff Iau, y Parthenon, y waywffon, y werthyd, a Crafanc-yr-arth y grawys |
Rhyw | Benyw |
Rhieni | Iau Metis |
Cywerthyddion | |
Etrwsgaidd | Menrva |
Groegaidd | Athena |
Duwies Rufeinig a gysylltir â gwybodaeth, y deall a'r celfyddydau yn gyffredinol yw Minerva. Mae hi'n dduwies deallusrwydd, synfyfyrdod a dyfeisgarwch, Brenhines y Celfyddydau i gyd ond yn enwedig y grefft o wau gan ferched. Yn ogystal, roedd hi'n nawdd-dduwies lliwyr, cryddion (cobleriaid), seiri pren, cerddorion, cerflunwyr, actorion, beirdd, athrawon a disgyblion ysgol (minerval oedd enw'r Rhufeiniaid am y ffioedd ysgol).
Roedd ei phrif gysegrfeydd i'w cael yn ninas Rhufain ei hun, ar fryn y Capitol, lle eisteddai cerflun ysblennydd ohoni rhwng y duw Iau a'i gymar Juno. Roedd temlau hynafol eraill iddi hefyd.
Gyda threigliad amser, cysylltwyd hi â'r dduwies Roegaidd Pallas Athene, yn enwedig yn ei hagwedd fel duwies buddugoliaeth ac ysbail; dan yr agwedd honno y codwyd Pompey deml iddi i ddathlu ei fuddugoliaethau yn y Dwyrain.
Ymledodd ei chwlt i bob cwr o'r Ymerodraeth Rufeinig, yn cynnwys y Brydain Rufeinig. Yng Ngâl, uniaethir y dduwies Geltaidd Belisama â Minerva.