Poster y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Brad Bird |
Cynhyrchydd | Tom Cruise J. J. Abrams Bryan Burk |
Ysgrifennwr | Ysgrifennwyd gan: Josh Appelbaum André Nemec Seiliedig ar: Mission: Impossible gan Bruce Geller |
Serennu | Tom Cruise Jeremy Renner Simon Pegg Paula Patton |
Cerddoriaeth | Michael Giacchino |
Sinematograffeg | Robert Elswit |
Golygydd | Paul Hirsch |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Bad Robot Production TC Productions FilmWorks Skydance Productions Stillking Productions Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 7 Rhagfyr, 2011 (Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dubai) 21 Rhagfyr, 2011 (Yr Unol Daleithiau |
Amser rhedeg | 133 munud[1] |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Mission: Impossible 4: Ghost Protocol yn ffilm ysbïo acsiwn Americanaidd 2010 a'r bedwaredd yng nghyfres y ffilmiau Mission: Impossible. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Brad Bird, ei ffilm acsiwn fyw gyntaf.[2] Dychwela Tom Cruise at ei rôl fel yr asiant IMF Ethan Hunt, gyda Jeremy Renner, Simon Pegg, a Paula Patton yn ei dîm cefnogol. Ysgrifennwyd Ghost Protocol gan André Nemec a Josh Appelbaum, a fe'i chynhyrchwyd gan Cruise, J. J. Abrams (cyfarwyddywr y drydedd ffilm) a Bryan Burk. Dychwelodd olygydd Paul Hirsch a goruchwyliwr effeithiau gweledol y ffilm gyntaf John Knoll. Hon yw'r ffilm gyntaf Mission: Impossible a ffilmir yn rhannol gyda chamerâu IMAX. Fe'i rhyddhawyd yng Ngogledd America gan Paramount Pictures ar 16 Rhagfyr, 2011, gyda llwyddiant beirniadol a masnachol. Ghost Protocol yw'r ffilm yn y gyfres sydd wedi ennill y mwyaf o arian,[3] a'r ffilm sydd wedi ennill y mwyaf o arian sy'n serennu Cruise.[4][5][6]
Yn ogystal â'r bedwaredd ffilm hon, cynhwysa'r gyfres y ffilmiau canlynol: Mission: Impossible (1995), Mission: Impossible II (1997), Mission: Impossible III (2006), Mission: Impossible – Rogue Nation (2015), a Mission: Impossible - Fallout (2017).