Mochyn | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Suidae |
Genws: | Sus |
Rhywogaeth: | S. scrofa |
Isrywogaeth: | S. s. domestica |
Enw trienwol | |
Sus scrofa domestica Linnaeus, 1758 | |
Cyfystyron | |
Sus scrofa domesticus |
Mae'r mochyn (enw gwyddonol: Sus domesticus), neu fochyn dof wrth wahaniaethu oddi wrth aelodau eraill o'r genws Sus, yn famal pedeircoes, carnog, hollysol, dof. Mae'r genws yma'n cynnwys yr hwch (benyw), y baedd (gwryw) a'r porchell (mochyn bach). Fe'i hystyrir naill ai'n isrywogaeth o'r baedd Ewrasiaidd (y baedd gwyllt) neu'n rhywogaeth gwbwl wahanol, mae Cymdeithas Mamalegwyr America yn ei dosbarthu fel yr ail opsiwn.[1] Mae wedi ei ddofi ers rhyw 5,000 i 7,000 o flynyddoedd. Megir ef yn Ewrop, yn y Dwyrain Canol ac yn Asia er mwyn ei gig. Mae'n anifail deallus iawn. Mae'n perthyn i'r un teulu â'r baedd gwyllt sydd yn byw mewn cynefin coediog.
Hyd arferol y mochyn, o'i drwyn i'w din, yw rhwng 0.9 ac 1.8 metr (3.0 - 5.9 troedfedd), ac mae mochyn llawndwf fel arfer yn pwyso rhwng 50 a 350 cilogram (110 - 770 pwys), gydag unigolion sy'n cael eu bwydo'n dda hyd yn oed yn drymach na hyn. Mae maint a phwysau mochyn hefyd yn dibynnu ar ei brîd. O'i gymharu ag artiodactylau eraill, mae pen mochyn yn gymharol hir ac yn bigfain. Mae'r rhan fwyaf o garnolion cyfnifer-fyseddog (even-toed) yn llysysol, ond mae moch yn hollysyddion, fel eu perthynas gwyllt.
Dywedir fod mochyn yn rhochian ac yn gwneud synau tebyg i chwyrnu.
Caiff moch dof eu ffermio'n bennaf ar gyfer eu cig, a elwir yn 'gig moch', 'bacwn' neu'n borc. Mae'r gair Cymraeg 'moch' yn dod o'r Gelteg moccws; Hen Wyddeleg: Mucc; Hen Lydaweg: Moch.[2]
Gelwir grŵp o foch yn haid a'r bobl a oedd yn eu cadw ac yn eu gwarchod yn feichiaid.
Defnyddir pob rhan o'r mochyn fel cynnyrch, gan gynnwys yn bennaf: yr esgyrn, y croen, yr ymennydd a blew'r anifail. Mewn gwledydd datblygedig, mae moch, yn enwedig bridiau bach, yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes.