Disgrifia model busnes fframwaith rhesymu ynglŷn â sut mae sefydliad yn creu, dosbarthu a chrisialu gwerth[1] - economaidd, cymdeithasol, neu fathau eraill o werth. Defnyddir y term model busnes felly ar gyfer ystod eang o ddisgrifiadau ffurfiol ac anffurfiol i gynrychioli agweddau craidd busnes, gan gynnwys pwrpas, cynigion, strategaethau, seilwaith, adeiladwaith sefydliadol, arferion masnachu, a phrosesau a pholisïau gweithredu.