![]() | |
Math | tref sirol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Monaghan ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 71 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 54.2478°N 6.9708°W ![]() |
![]() | |
Tref yn Iwerddon yw Monaghan (Gwyddeleg: Muineachán),[1] sy'n dref sirol Swydd Monaghan yn nhalaith Ulster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir ar y briffordd N2 sy'n ei chysylltu gyda Dulyn i'r de a gyda Derry a Letterkenny i'r gogledd. Yng nghyfrifiad 2006 bu 7,811 o bobl yn byw ynddo (yn cynnwys yr ardal wledig o'i chwmpas).
Ceir amgueddfa hanes ac archaeoleg yn y dref a leolir yn yr hen lys sirol. Ymhlith y cynnwys ceir croes Geltaidd An Cochar, gwaith arian sy'n dyddio o'r 12g. Mae gan Sinn Fein amgueddfa yn Stryd Baile Atha Cliath am hanes llenyddiaeth a cherddoriaeth sy'n ymwneud â chenedlaetholdeb Gwyddelig.[2]