Enghraifft o: | grŵp ethnig |
---|---|
Mamiaith | Mongoleg |
Poblogaeth | 10,000,000 |
Crefydd | Bwdhaeth, islam, siamanaeth, eglwysi uniongred, protestaniaeth, bwdaeth mongolia, tengriaeth, protestaniaeth mongolia, eglwys gatholig mongolia |
Gwlad | Mongolia |
Rhan o | Mongolic peoples |
Enw brodorol | Монголчууд |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mongolia, Rwsia |
Rhanbarth | Gweriniaeth Buryatia, Gweriniaeth Kalmykia, Oblast Irkutsk, Crai Zabaykalsky |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Mongolwyr yn grŵp ethnig sy'n dod yn wreiddiol o'r ardal sydd rwan yn Fongolia, rhannau o Rwsia a gogledd-orllewin Tsieina, yn enwedig Mongolia Fewnol. Heddiw mae tua 8.5 miliwn o Fongolwyr yn siarad yr iaith Fongoleg. Maen nhw'n cael eu cynnwys yn un o'r 56 cenedl sydd yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Mae tua 2.3 miliwn o Fongolwyr yn byw ym Mongolia, 4 miliwn ohonyn nhw ym Mongolia Fewnol (talaith yn Tsieina), a 2 filiwn yn y taleithiau Tsieinëaidd cyfagos. Yn ogystal ceir nifer o grwpiau ethnig yng Ngogledd Tsieina sy'n perthyn i'r Mongolwyr, sef y Daur, Buryat, Evenk, Dorbod, a'r Tuvin.