Monty Python's Flying Circus

Monty Python’s Flying Circus

Clawr llyfr a gyhoeddwyd ym Mawrth 2017.
Crëwyd gan Graham Chapman
John Cleese
Terry Gilliam
Eric Idle
Terry Jones
Michael Palin
Serennu Graham Chapman
John Cleese
Terry Gilliam
Eric Idle
Terry Jones
Michael Palin
Carol Cleveland
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 4
Nifer penodau 45
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30-40 muned
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC1
Darllediad gwreiddiol 5 Hydref 19695 Rhagfyr 1974
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Cyfres gomedi o sgetsis swreal o Loegr oedd Monty Python's Flying Circus (a elwir yn fwy cyffredinol yn Monty Python) a redodd am bedair cyfres rhwng 1969 a 1974. Roedd y sioe yn nodedig am y steil o gomedi arbennig, a oedd yn cynnwys sgetshis gwirion ac hurt, heb linellau clo ac yn gyfuniad o hiwmor geiriol a gweledol.

Mae'n serennu Graham Chapman, John Cleese, Eric Idle, Terry Jones, Michael Palin, a Terry Gilliam. Recordiwyd y bennod gyntaf gan gwmni BBC yn Lloegr ar 7 Medi 1969 a gwelodd olau dydd am y tro cyntaf ar 5 Hydref ar BBC1, gyda 45 o benodau yn cael eu darlledu dros bedair cyfres o 1969 i 1974, ynghyd â dwy bennod ar gyfer teledu Almaeneg. Rhyddhawyd addasiad ffilm o sawl sgets, And Now for Something Totally Different, ym 1971.

Yn ôl llawer o feirniaid ffilm, roedd y gyfres yn unigryw am ei defnydd o sefyllfaoedd abswrd, a'i hiwmor llawn ensyniadau, a sgetsis heb linellau clo. Rhannwyd y sgetsys byw gydag animeiddiadau gan Gilliam, yn aml yn cyfuno gyda'r actio byw. Roedd y fformat cyffredinol a ddefnyddiwyd ar gyfer y gyfres yn dilyn ac yn ymhelaethu ar yr arddull a ddefnyddiwyd gan Spike Milligan yn ei gyfres arloesol Q..., yn hytrach na fformat y sioe sgets draddodiadol. Mae prif berfformwyr y Pythons yn chwarae'r rhan fwyaf o gymeriadau'r gyfres, gydag aelodau'r cast cefnogol gan gynnwys Carol Cleveland (y cyfeirir ati gan y tîm fel y "Seithfed Python" answyddogol, Connie Booth (gwraig gyntaf Cleese), cynhyrchydd y gyfres Ian MacNaughton, Ian Davidson, cerddor Neil Innes, a 'Fred Tomlinson a'r Fred Tomlinson Singers' am ganeuon.[1][2]

Daeth y rhaglen i fodolaeth ar ôl i’r chwe Python gyfarfod â’i gilydd yn y brifysgol, ac mewn amryw o raglenni radio a theledu yn y 1960au, gan geisio gwneud sioe gomedi newydd yn wahanol i unrhyw beth arall ar deledu gwledydd Prydain. Roedd llawer o hiwmor y gyfres yn targedu hynodion bywyd Prydain, yn enwedig bywyd proffesiynol, yn ogystal ag agweddau ar wleidyddiaeth. Mae eu comedi yn aml yn hynod ddeallusol, gyda chyfeiriadau gwallgof niferus at athronwyr a llenorion a'u gweithiau. Bwriad y tîm oedd i'w hiwmor fod yn amhosib i'w gategoreiddio, a llwyddodd mor llwyr fel y dyfeisiwyd yr ansoddair "Pythonesque" i'w ddiffinio. Nid oedd eu hiwmor bob amser yn cael ei ystyried yn briodol ar gyfer teledu gan y BBC, gan arwain at rywfaint o sensoriaeth yn ystod y drydedd gyfres e.e. sŵn rhech. Gadawodd Cleese y sioe yn dilyn y gyfres honno, a chwblhaodd gweddill y Pythons y bedwaredd gyfres derfynol, cyfres fyrrach, cyn dod â'r sioe i ben.

Daeth y sioe yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, ac ar ôl methu â denu cynulleidfa yn yr Unol Daleithiau i ddechrau, ond enillodd ei blwy ym 1974. Arweiniodd llwyddiant y rhaglen ar ddwy ochr yr Iwerydd at deithiau byw gan y Pythons a chrewyd tair ffilm ychwanegol, tra bod yr actorion unigol yn ffynnu mewn gyrfaoedd unigol. Bu Monty Python yn ddylanwad mawr ar gomedi yn ogystal ag mewn diwylliant poblogaidd. Cafodd yr iaith raglennu digidol Python ei henwi gan Guido van Rossum ar ôl y sioe.

  1. "Fred Tomlinson, singer on Monty Python – obituary". The Daily Telegraph. 2016-08-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2022. Cyrchwyd 2016-08-15.
  2. Slotnik, Daniel E. (2016-08-04). "Fred Tomlinson, Singer Who Led a 'Monty Python' Troupe, Dies at 88". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 August 2016. Cyrchwyd 2016-08-15.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne