![]() Morfa Harlech a'r cyffiniau o gopa Moel Goedog | |
Math | morfa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.87952°N 4.124578°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Morfa yn ne Gwynedd yw Morfa Harlech, sy'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion ger Harlech yn ardal Ardudwy. Mae rhan o'r morfa yn un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru.
Ffurfia Morfa Harlech driongl o dir tua 3 milltir ar draws rhwng y Traeth Bach ar lan Afon Dwyryd i'r gogledd, Bae Ceredigion i'r gorllewin a rhagryniau'r Rhinogydd i'r dwyrain, gyda thref Harlech i'r de a phentref Llanfihangel-y-traethau ar y cwr gogledd-ddwyreiniol. Rhed y briffordd A496 ar hyd yr ymyl dwyreiniol. Ceir traeth hir syth yno gyda nifer o dywynni tywodlyd y tu ôl iddo, sy'n ffurfio'r morfa ei hun. Mae rhannau o'r morfa yn dir amaethyddol.