Enghraifft o: | creadur chwedlonol, ceffyl dyfrol, ceffyl chwedlonol ![]() |
---|---|
Math | hybrid mytholegol ![]() |
Rhan o | mytholeg Roeg ![]() |
![]() |
Creadur mytholegol o'r Henfyd sydd â rhan flaen ceffyl – hynny yw, y pen, y gwddf a'r ddwy goes flaen (neu weithiau dwy asgell pysgodyn) – a rhan gefn pysgodyn, neidr neu anghenfil môr yw morfarch.[1] Fe'u cynrychiolir yn aml ar wrthrychau celf o'r cyfnod hynafol megis mosaigau a chrochenwaith. Fe'u darlunnir yn aml fel gwedd yn tynnu cerbyd duw'r môr (Poseidon y Groegiaid, Neifion y Rhufeiniaid) trwy'r tonnau, neu fel unigolion yn cario môr-dduwiau neu fôr-dduwiesau ar eu cefnau. Fel llawer o greaduriaid mytholegol eraill, mae ffigwr y morfarch wedi'i ddefnyddio hefyd mewn herodraeth a cherfluniau modern.