Math | prifddinas Rwsia, dinas ffederal o fewn Rwsia, dinas fawr, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, tref neu ddinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Moscfa |
Poblogaeth | 13,149,000 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Moya Moskva |
Pennaeth llywodraeth | Sergej Sobjanin |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa |
Gefeilldref/i | Berlin, Delhi, Madrid, Tel Aviv, Tehran, Beijing, Valenciennes, Llundain, Ljubljana, Buenos Aires, Astana, Athen, Düsseldorf, Fienna, Bangkok, Beograd, Zagreb, Ankara, Ulan Bator, Bishkek, Seoul, La Habana, Sefastopol, Dubai, Tokyo, P'yŏngyang, Baku |
Nawddsant | Siôr |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Canol |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 2,562 ±1 km² |
Uwch y môr | 156 metr |
Gerllaw | Afon Moscfa, Afon Yauza, Vodootvodny Canal, Skhodnya Derivation Canal, Camlas Moscfa |
Yn ffinio gyda | Oblast Moscfa, Oblast Kaluga |
Cyfesurynnau | 55.7506°N 37.6175°E |
Cod post | 101001–135999 |
RU-MOW | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Maer Moscfa, Llywodraeth Moscfa |
Corff deddfwriaethol | Duma Diinas Moscfa |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prime Minister of Moscow |
Pennaeth y Llywodraeth | Sergej Sobjanin |
Sefydlwydwyd gan | Yuri Dolgorukiy |
Prifddinas Rwsia yw Moscfa ( ynganiad) ; hefyd: Mosco, neu Mosgo; Москвá, sef Moscfa yn Rwsieg). Mae tua 13,149,000 (2024) o bobl yn byw yn y ddinas ei hun a 17,125,000 (2020)[1] o gynnwys yr ardal ehangach, fetropolitan (sef y Московская агломерация). Mae arwynebedd y ddinas yn 2,511 cilomedr sgwâr (970 metr sgwâr), tra bod yr ardal ddinesig yn gorchuddio 5,891 cilomedr sgwâr (2,275 metr sgwâr), a'r ardal fetropolitan dros 26,000 cilomedr sgwâr (10,000 metr sgwâr).[2][3]
Lleolir y dref yn yr ardal ranbarthol a enwir Canol Rwsia sydd mewn gwirionedd yng ngorllewin Rwsia (y 'Rwsia Ewropeaidd'). Roedd hi'n brif ddinas yr Undeb Sofietaidd a hefyd o Muscvy y Rwsia cyn-ymerodraethol. Mae'r Kremlin sedd llywodraeth genedlaethol Rwsia a'r Sgwâr Coch wedi'u lleoli yn y ddinas.
Wedi'i sefydlu'n wreiddiol ym 1147, tyfodd Moscow i ddod yn ddinas lewyrchus a phwerus a wasanaethodd fel prifddinas y Ddugiaeth Fawr (y Grand Duchy yn Saesneg, neu'r Muscovite Rus' yn Rwsieg) sy'n dwyn ei henw. Pan esblygodd Dugiaeth Fawr Moscow i Tsariaeth Rwsia[4], roedd Moscow yn dal i fod yn ganolfan wleidyddol ac economaidd ar gyfer y rhan fwyaf o'i chyfnod fel Tsariaeth. Pan ddiwygiwyd y Tsariaeth yn Ymerodraeth Rwsia rhwng 1721 a 1917, symudwyd y brifddinas o Moscfa i St Petersburg, gan leihau dylanwad y ddinas. Yna symudwyd y brifddinas yn ôl i Moscfa yn dilyn Chwyldro Rwsia yn 1917 a daethpwyd â'r ddinas yn ôl fel canolfan wleidyddol yr SFSR (sef y Rossiyskaya Sovetskaya Federativnaya Sotsialisticheskaya Respublika) a'r Undeb Sofietaidd. Yn dilyn diddymiad yr Undeb Sofietaidd yn 1991, arhosodd Moscfa fel prif ddinas Ffederasiwn Rwsia.
Mae gan Moscfa un o economïau trefol mwya'r byd, ac mae'n un o'r dinasoedd drutaf yn y byd i fyw ynddi. Mae'r ddinas yn un o'r cyrchfannau twristaidd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, ac mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir â hi fwyaf yn Ewrop. Moscfa yw'r drydedd dinas sydd a'r mwyaf o biliwnyddion yn y byd, ac mae ganddi mwy o biliwnyddion nag unrhyw ddinas yn Ewrop.[5][6] Mae Canolfan Fusnes Ryngwladol Moscow yn un o'r canolfannau ariannol mwyaf yn y byd, ac mae'n cynnwys rhai o skyscrapers talaf Ewrop. Dyma hefyd ddinas orau'r byd am ei gwasanaethau digidol,[7] cyhoeddus a'r gwasanaethau e-lywodraeth orau'n y byd.[8] Moscow oedd dinas letyol Gemau Olympaidd yr Haf 1980, ac roedd hefyd yn un o'r dinasoedd a gynhaliodd gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018.[9]
Mae'r ddinas yn gartref i sawl Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac mae'n adnabyddus am ei phensaernïaeth nodedig, yn enwedig ei Sgwâr Coch hanesyddol, ac adeiladau fel Eglwys Gadeiriol Sant Basil ac adeilad Kremlin Moscfa sef sedd Llywodraeth Rwsia. Mae Moscow yn gartref i lawer o gwmnïau Rwsiaidd mewn nifer o ddiwydiannau, sy'n cael ei wasanaethu gan rwydwaith cynhwysfawr o drafnidiaeth a phedwar maes awyr rhyngwladol, naw terfynfa reilffordd, system tramiau, system monorail, ac yn fwyaf arbennig Metro Moscow, y system metro brysuraf yn Ewrop, ac un o'r systemau cludo cyflym mwyaf yn y byd. Mae gan y ddinas dros 40 y cant o'i thiriogaeth wedi'i gorchuddio â gwyrddni, sy'n golygu ei bod yn un o'r dinasoedd gwyrddaf yn Ewrop a'r byd.[3][10]