Mosgito Amrediad amseryddol: Jurasig - Presennol | |
---|---|
Benyw Culiseta longiareolata | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Diptera |
Is-urdd: | Nematocera |
Inffra-urdd: | Culicomorpha |
Uwchdeulu: | Culicoidea |
Teulu: | Culicidae Meigen, 1818 [1] |
Isdeuluoedd | |
|
Pryfed bychan o deulu'r Culicidae yw mosgitos. Mae ganddynt adenydd cennog, corff main a chwech coes hir. Mae'r gwrywod yn bwydo ar neithdar yn unig ond, mewn llawer o rywogaethau, mae'r benywod yn ectoparasit sy'n bwydo ar waed hefyd, drwy ddefnyddio rhan o'u gec sydd wedi'i ffurfio'n diwb hir. Drwy sugno gwaed a theithio o un anifail i'r llall mae benyw miloedd o rywogaethau'n trosglwyddo clefydau megis malaria, y feirws Zika, gwibgymalwst a'r dwymyn felen ond ceir rhai ohonyn nhw sy'n gwbwl ddiniwed. Mae rhai awdurdodau'n dadlau mai'r mosgito ydy'r anifail mwyaf peryglus i ddyn ar y blaned.[2][3][4][5]
Ceir dros 3,500 rhywogaeth ledled y byd[6][7] a gwnant niwed i filiynau o bobl yn flynyddol.[8][9] Mae gwaed amrywiaeth eang o anifeiliaid yn cael eu sugno ganddynt, gan gynnwys: fertebratau (gan gynnwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiaid a rhai mathau o bysgod.
Tarddiad y gair ydy mosca ac ito, sef y Sbaeneg am "bry bychan".[10]
Mae cylch bywyd y mosgito yn cynnwys y cyfnodau canlynol: wy, larfa, chwiler ac oedolyn. Rhoddir yr wyau ar wyneb y dŵr a chant eu deor yn larfa symudol, sy'n bwydo ar algâu dyfrol a deunydd organig. Mae'r larfau hyn yn ffynonell fwyd bwysig i lawer o anifeiliaid dŵr croyw, fel nymffau gweision neidr, llawer o bysgod, a rhai adar fel hwyaid.[11] Mae gan fenywod llawndwf y rhan fwyaf o rywogaethau rannau ceg tebyg i diwb a elwir yn sugnydd (proboscis) a all dyllu croen gwesteiwr a bwydo ar waed sy'n cynnwys protein a haearn sydd eu hangen i gynhyrchu wyau.
Mae miloedd o rywogaethau o fosgitos sy'n sugno gwaed amrywiol fertebratiaid, a elwir yn "lletywyr" (hosts), gan gynnwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiaid, a rhai pysgod ynghyd â rhai infertebratau, yn bennaf arthropodau eraill.
Mae poer y mosgito'n cael ei drosglwyddo i'r organeb letyol yn ystod y brathiad, a gall achosi rash. Yn ogystal, gall llawer o rywogaethau lyncu pathogenau wrth frathu, a'u trosglwyddo i letywyr (hosts) eraill. Yn y modd hwn, mae mosgitos yn fectorau (carwyr afiechyd) pwysig o glefydau parasitig megis malaria a filariasis, a chlefydau arbofirol fel y dwymyn felen, Chikungunya, twymyn Gorllewin Nîl, twymyn dengue, a Zika.
Trwy drosglwyddo clefydau, mae mosgitos yn achosi mwy o farwolaethau (o bobl) nag unrhyw dacson o anifeiliaid arall: dros 700,000 bob blwyddyn.[2][12] Honnir bod bron i hanner y bobl sydd erioed wedi byw wedi marw o glefyd fector-mosgito,[13] ond mae’r honiad hwn yn destun dadl, gydag amcangyfrifon mwy ceidwadol yn gosod y nifer o farwolaeth yn nes at 5% o’r holl fodau dynol.
Ni all mosgitos fyw na gweithredu'n iawn pan fo tymheredd yr aer yn is na 10 gradd Canradd (50 Fahrenheit). Maent yn weithredol yn bennaf ar 15-25 gradd Canradd.[14]