Enghraifft o: | clefyd |
---|---|
Math | anhwylder lleferydd, anhwylder gorbryder |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anhwylder gorbryder difrifol yw mudandod dethol lle nad yw person yn gallu siarad mewn sefyllfaoedd cymdeithasol penodol, megis â chyd-ddisgyblion yn yr ysgol neu â pherthnasau nad ydynt yn gweld yn aml iawn.
Nid yw plentyn nac oedolyn â mudandod dethol yn gwrthod nac yn dewis peidio siarad ar adegau penodol; yn llythrennol nid ydynt yn gallu siarad. Mae’r disgwyliad i siarad â phobl benodol yn achosi iddynt rewi ac yn sbarduno teimladau o banig, ac mae siarad yn amhosibl.
Gydag amser, bydd y person yn dysgu i ragweld y sefyllfaoedd sy’n pryfocio’r ymateb hwn cyn iddynt ddigwydd a byddant yn gwneud popeth y gallant i’w hosgoi. Fodd bynnag, mae pobl â mudandod dethol yn gallu siarad yn rhydd â phobl benodol, megis teulu a ffrindiau agos, pan nad oes rhywun arall o gwmpas i achosi iddynt rewi.[1]