Math o gyfrwng | mudiadau hawliau sifil, black movement |
---|---|
Math | mudiad gwleidyddol |
Rhan o | Hanes yr Unol Daleithiau |
Dechreuwyd | 1954 |
Daeth i ben | 1968 |
Rhagflaenwyd gan | Long Civil Rights Movement, Civil rights movement (1896–1954) |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Mudiad Hawliau Sifil America yn frwydr ac yn ymgyrch gan bobl ddu Unol Daleithiau America a’u cefnogwyr i roi diwedd ar y gwahaniaethu a’r arwahanu hiliol, a’r difreinio a’r rhagfarnau oedd yn bodoli yn UDA. Roedd gwreiddiau'r ymgyrch i'w cael yng nghyfnod yr Ailymgorfforiad wedi Rhyfel Cartref America (1861-65). Er bod 14eg a’r 15fed gwelliant i gyfansoddiad yr Unol Daleithiau wedi sicrhau cydraddoldeb yn ôl y gyfraith i bawb yn UDA ac wedi rhoi’r bleidlais i bobl ddu, nid oedd y newid mewn deddfwriaeth wedi newid agweddau pobl tuag at bobl ddu, ac roedd hiliaeth yn parhau i effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau.
Llwyddodd y mudiad i sicrhau deddfwriaethau pwysig yn y 1960au ar ôl blynyddoedd o weithredu uniongyrchol a phrotestiadau ar lawr gwlad. Pwysleisiai’r mudiad wrthwynebiad di-drais ac ymgyrchoedd lle defnyddiwyd anufudd-dod sifil fel rhan o’u tactegau protest. Yn y pen draw, arweiniodd yr ymgrchoedd at sicrhau cyfreithiau ffederal newydd oedd yn amddiffyn hawliau dynol pob Americanwr.
Ar ôl Rhyfel Cartref America a diddymiad caethwasiaeth yn y 1860au, roedd y newidiadau i Gyfansoddiad America yn sicrhau rhyddfreiniad a hawliau cyfansoddiadol i bob dinesydd Affricanaidd-Americanaidd. Ond yn raddol amddifadwyd pobl ddu o’u hawliau sifil oherwydd Deddfau Jim Crow, a dioddefodd pobl ddu erledigaeth a thrais cynyddol oddi wrth oruchafiaethwyr gwyn yn y taleithiau deheuol. Yn ystod y ganrif ddilynol ymdrechodd ac ymgyrchodd pobl ddu America i sicrhau hawliau sifil a chyfreithiol cydradd. Ym 1954, bu achos Brown v. Bwrdd Addysg Topeka yn gam pwysig o ran chwalu arwahanu oddi mewn i'r system addysg, a rhwng 1955 a 1968 bu protestiadau di-drais ac anufudd-dod sifil ar raddfa eang. Arweiniodd y rhain at ddeialog rhwng ymgyrchwyr ac awdurdodau y Llywodraeth.
Yn aml iawn roedd yn rhaid i lywodraeth ffederal, taleithiol a lleol, busnesau, cwmnïau a chymunedau ymateb yn syth i’r sefyllfaoedd hyn, a gorfodwyd hwy i wynebu’r anghyfiawnder a wynebai pobl ddu America ar draws y wlad. Bu lynsio erchyll y bachgen ifanc o Chicago, Emmet Till, yn 1955, yn gyfrwng i uno ymateb pobl ddu ar draws America. Arweiniodd hyn at brotestiadau, anufudd-dod sifil fel boicotio adeg Boicot y Bysus yn Montgomery (1955-56) yn Alabama; ‘protestiadau eistedd i mewn’ neu’r ‘sit-ins’ fel yn Greensboro (1960) yng Ngogledd Carolina a Nashville, Tennessee; gorymdeithiau enfawr fel Crwsâd y Plant yn Birmingham, Alabama yn 1963 a’r gorymdeithiau rhwng Selma a Montgomery, Alabama yn 1965 yn ogystal â nifer o enghreifftiau eraill o weithgareddau a gwrthdystiadau di-drais.
Yn ystod y 1950au a’r 1960au, diddymwyd llawer o’r cyfreithiau a oedd wedi caniatáu arwahanu a gwahaniaethu hiliol gan Lys Goruchaf UDA o dan arweiniad y Barnwr Earl Warren, yn anghyfansoddiadol. Penderfynodd y Barnwr Warren ar nifer o gerrig milltir pwysig yn erbyn gwahaniaethu hiliol - er enghraifft, achos Brown v.Bwrdd Addysg Topeka (1954), Heart of Atlanta Motel, Inc v. UDA (1964) a Loving v. Virginia (1967), a wnaeth wahardd arwahanu mewn ysgolion gwladwriaeth a llety cyhoeddus, ac a waharddodd gyfreithiau taleithiol oedd yn gwahardd priodasau rhyng-hiliol.[1]
Bu’r penderfyniadau hyn yn hollbwysig o ran rhoi diwedd ar y Cyfreithiau Jim Crow oedd yn gyffredin yn y taleithiau deheuol.[2]
Yn ystod y 1960au pasiwyd sawl deddf a fu'n drobwynt yn hanes hawliau pobl ddu America. Roedd Deddf Hawliau Sifil 1964[3] yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hil, lliw croen, crefydd, rhyw neu dras mewn cyflogaeth, yn gwahardd arwahanu hiliol mewn ysgolion, y gweithle ac yn sicrhau hawliau cydradd mewn siopau a bwytai. Byddai Comisiwn Hawliau Cydradd mewn Cyflogaeth yn cael ei sefydlu hefyd er mwyn archwilio cwynion. Roedd Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 yn gwahardd hiliaeth mewn pleidleisio a Deddf Llety Teg 1968 yn anelu at roi diwedd ar hiliaeth ym maes tai.[4]
Ysgogwyd cenhedlaeth newydd o bobl ifanc du i brotestio ac ymgyrchu yn ystod y 1960au a 1970au gyda thon o derfysgoedd a phrotestiadau mewn cymunedau du yn yr ardaloedd trefol-ddinesig. Lleihaodd hyn y gefnogaeth oddi wrth y dosbarth canol gwyn i’r mudiad ond bu cynnydd yn y gefnogaeth a ddaeth oddi wrth elusennau preifat.
Rhwng 1965 a 1975 ymddangosodd y mudiad Pŵer Du ac roedd Malcolm X yn un o’i brif arweinyddion. Roedd yn fudiad a oedd yn herio agwedd a thactegau arweinyddiaeth Martin Luther King o’r Mudiad Hawliau Sifil ohewydd credent y dylid ddefnyddio trais er mwyn cael mwy o hawliau i bobl ddu. Yn eu barn nhw roedd angen i bobl ddu greu cymdeithas annibynnol a oedd yn wleidyddol ac yn economaidd hunan-gynhaliol heb ddibynnu ar gymuned y dyn gwyn. Roedd Martin Luther King yn un o brif arweinyddion y Mudiad Hawliau Sifil yn America, gan ennill Gwobr Heddwch Nobel yn 1964 oherwydd ei arweinyddiaeth garismataidd a’i fod yn cymell cefnogwyr y mudiad i ddefnyddio dulliau di-drais.