Mudiad dinesyddion sofran

Mudiad gwrth-lywodraethol yn yr Unol Daleithiau yw'r mudiad dinesyddion sofran. Mae aelodau'r mudiad yn credu eu bod yn atebol i'r gyfraith gyffredin yn unig ac nid yn ddarostyngedig i statudau, boed ar y lefel ffederal, taleithiol, neu fwrdeistrefol, ac maent yn ceisio anwybyddu'r awdurdodau llywodraethol, gan gynnwys y llysoedd, yr heddlu, asiantaethau trethu, ac asiantaethau cofrestru cerbydau a thrwyddedu gyrwyr. Maent yn honni eu bod yn ddinesyddion "sofran" gan eu bod yn gwrthod awdurdod y llywodraeth dros eu bywydau, tra bo "dinesyddion ffederal" yn ildio'u hawliau trwy dderbyn y gyfraith ffederal.[1] Maent yn ystyried y Pedwarydd Welliant ar Ddeg i'r Cyfansoddiad, y Cod Masnach Unffurf, a darnau eraill o ddeddfwriaeth yn gyfrifol am droi Americanwyr yn ddinesyddion ffederal.

Mae nifer o lysoedd ac asiantaethau llywodraethol wedi gwrthod dadleuon aelodau'r mudiad. Mae'r Biwro Ymchwil Ffederal (FBI) yn ystyried y mudiad yn "fygythiad terfysgol mewnol".[2]

  1. (Saesneg) Carey, Kevin (Gorffennaf 2008). Too Weird for The Wire. Washington Monthly. Adalwyd ar 9 Ionawr 2012.
  2. (Saesneg) Domestic Terrorism: The Sovereign Citizen Movement. Biwro Ymchwil Ffederal (Ebrill 2010). Adalwyd ar 9 Ionawr 2012.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne