Muhammadu Buhari | |
---|---|
Arlywydd Nigeria darpar | |
Yn ei swydd 29 Mai 2015 | |
Vice President | Yemi Osinbajo |
Rhagflaenydd | Goodluck Jonathan |
7fed Arweinydd Nigeria | |
Yn ei swydd 31 Rhagfyr 1983 – 27 Awst 1985 | |
Rhagflaenwyd gan | Shehu Shagari |
Dilynwyd gan | Ibrahim Babangida |
Llywodraethwr Talaith y Gogledd-Ddwyrain | |
Yn ei swydd Awst 1975 – Mawrth 1976 | |
Rhagflaenwyd gan | Musa Usman |
Manylion personol | |
Ganwyd | Daura[1][2] | 17 Rhagfyr 1942
Cenedligrwydd | Nigeriad |
Plaid wleidyddol | All Progressives Congress |
Priod |
|
Plant | 10
|
Alma mater |
|
Gwefan | thisisbuhari.com |
Military service | |
Teyrngarwch | Nigeria |
Gwasanaeth/cangen | Byddin Nigeria |
Blynyddoedd o wasanaeth | 1961–1985 |
Rheng | Uwch-frigadydd |
Etholwyd Muhammadu Buhari , GCFR (ganwyd 17 Rhagfyr 1942) yn Arlywydd Nigeria ar 28ain a'r 29ain o Fawrth 2015.[4] Cyn ei benodi'n Arlywydd roedd yn Uwch-frigadydd ym myddin y wlad ac yn bennaeth y wladwriaeth rhwng 31 Rhagfyr 1983 a 27 Awst 1985 wedi i'r fyddin greu clymblaid milwrol (neu 'jynta') yn dilyn coup d'état gan y fyddin.[5][6] Defnyddir y term 'Buharism' i ddisgrifio llywodraeth filwrol y cyfnod.[7][8]
Bu'n llwyddiannus yn etholiadau Arlywyddiaeth Nigeria yn 2003, 2007 a 2011. Yn Rhagfyr 2014 daeth i'r brig fel ymgeisydd yr All Progressives Congress ar gyfer etholiadau Mawrth 2015. Cafodd ei ethol yn Arlywydd, gan drechu Goodluck Jonathan. Dyma'r tro cyntaf i arlywdd yn Nigeria drosglwyddo'r awenau i arlywydd arall, heb ymyrraedd filwrol na threisiol ac o dan drefn ddemocrataidd a theg.[9]
Cafwyd beirniadaeth, dros y blynyddoedd, ei fod wedi mynd yn groes i hawliau dynol ei ddinasyddion, drwy garcharu'r rhai oedd yn ei wrthwynebu. fel ymateb i'r feirniadaeth hon, yn 2015, dywedodd y bydd yn dilyn llythyren y ddeddf ac y bydd pob Nigeriad yn cael mynediad i gyfiawnder y gyfraith ac y perchir hawliau dynol pob dinesydd y wlad.[10]