Mulfran werdd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Pelecaniformes |
Teulu: | Phalacrocoracidae |
Genws: | Phalacrocorax |
Rhywogaeth: | P. aristotelis |
Enw deuenwol | |
Phalacrocorax aristotelis (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Fulfran werdd (Phalacrocorax aristotelis), yn aelod o deulu'r Phalacrocoracidae, y mulfrain. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, de-orllewin Asia a Gogledd Affrica.
Mae'r Fulfran werdd yn aderyn mawr du, 68–78 cm o hyd a 95–110 cm ar draws yr adenydd. Gall fod yn anodd gweld y gwahaniaeth rhwng y rhywogaeth yma a'r Fulfran, ond mae ychydig yn llai na'r Fulfran, a'r pig yn llai ac yn deneuach, ac mae siâp y pen yn wahanol, yn dangos mwy o "dalcen" na'r Fulfran. Yn y tymor nythu mae plu hirach ar y pen, yn wahanol i'r Fulfran, ac mae gwawr werdd ar y plu.
Pysgod yw'r prif fwyd, ac mae'n pysgota yn y môr yn unig fel rheol, yn wahanol i'r Fulfran sydd hefyd yn pysgota ar afonydd a llynnoedd. Mae'n dal y pysgod trwy nofio o dan y dŵr, a gall blymio hyd at ddyfner o 45 medr o leiaf.
Maent yn nythu ar glogwyni ger glan y môr fel rheol, ac yn adeiladu nyth o wymon a phriciau. Gall ddechrau nythu ym mis Chwefror.