Peintiad ar fur neu nenfwd yw murlun.[1] Yn aml mae elfennau pensaernïol o'r wal neu'r nenfwd yn cael eu cymhathu i mewn i'r llun.
Ar adegau peintir y llun ar ganfas mawr a roddir yn sownd ar y wal e.e. marouflage. Mae peth dadlau fodd bynnag a yw marouflage yn furlun ond mae'r dechneg ar gael ers diwedd y 19g.[2]