Mae'r planhigyn mwstard (neu fwstad) yn perthyn i'r ddau genws Brassica a Sinapis. Cafodd ei ddisgrifio'n gyntaf yn nysgeidiaeth Gautama Buddha yn India yn y 5g. Term brodorol ar ei gyfer yw llyminog.[1]
Mae'r hedyn mwstard yn cael ei ddefnyddio fel sbeis i roi blas ar fwyd a chaiff y sug melyn hwn ei baratoi drwy'i falu mewn melin sbeis a'i gymysgu gyda dŵr neu finagr. Gellir gwasgu'r had, er mwyn cynhyrchu olew ar gyfer y gegin. Caiff y dail hefyd eu bwyta: gweler Brassica juncea. Mae cymysgu mêl gyda mwstard yn ffasiwn eitha diweddar, sy'n ennill ei blwyf yn sydyn.[2] Ceir llawer o gymysgeddau eraill ar werth, megis mwstard blas fodca neu fwstard blas Cognac, ond heb yr alcohol.