Cloddio am sylffwr ar ymyl llyn crater Ijen, Indonesia | |
Enghraifft o: | gweithgaredd economaidd, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | exploitation of natural resources |
Rhan o | mwyngloddio a chwarelydda |
Yn cynnwys | prosesu mwynau, echdynnu mwynau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mwyngloddio yw echdynnu mwynau gwerthfawr neu ddeunyddiau daearegol eraill o'r Ddaear, fel arfer o wythïen, neu haen o garreg mewn craig. Mae ecsbloetio'r dyddodion hyn yn cael ei wneud er elw economaidd ac mae'n golygu buddsoddi mewn offer, llafur ac yn yr ynni sydd eu hangen i gloddio, mireinio a chludo'r deunyddiau a geir yn y pwll neu'r fynglawdd i weithgynhyrchwyr a all ddefnyddio'r deunydd.
Ymhlith y mwynau a fwyngloddir heddiw mae metelau, glo, siâl olew, gleiniau gwerthfawr, calchfaen, sialc, carreg halen, potash, graean, a chlai. Mae angen mwyngloddio'r rhan fwyaf o ddeunyddiau na ellir eu tyfu trwy brosesau amaethyddol, neu eu creu yn artiffisial mewn labordy neu ffatri. Mae mwyngloddio mewn ystyr ehangach yn cynnwys echdynnu unrhyw adnodd anadnewyddadwy fel petrolewm neu nwy naturiol. Mae prosesau mwyngloddio modern yn cynnwys chwilio am garreg yn cynnwys y mwyn, dadansoddi potensial elw mwynglawdd arfaethedig, echdynnu'r deunyddiau dymunol, ac adennill neu adfer y tir yn ar ôl i'r mwynglawdd gau.[1]
Roedd Cymru’n enwog am fwyngloddio glo, yng Nghwm Rhondda a ledled maes glo De Cymru ac erbyn 1913 roedd y Barri wedi dod yn borthladd allforio glo mwya'r byd, gyda Chaerdydd yn ail. Roedd gan ogledd-ddwyrain Cymru hefyd ei faes glo ei hun ac mae Glofa'r Tŵr (a gaewyd ym mis Ionawr 2008) ger Hirwaun yn cael ei hystyried gan lawer fel y pwll glo agored hynaf a mwya'r byd. Mae Cymru hefyd wedi cael hanes sylweddol o gloddio am lechi, aur a mwynau metel amrywiol.
Fil o flynyddoedd cyn dyfod y Rhufeiniaid, arferid cloddio Copr ar y Gogarth, a dyma fwynglawdd copr mwya'r byd; ceir hefyd gwaith plwm Mynydd Parys a'r Sygun. Echdynnwyd symiau sylweddol o aur a phlwm ers cyfnod y Deceangli hefyd ynghyd a sinc ac arian. Cychwynwyd cloddio am lechi 2,000 o flynyddoedd yn ôl (gweler diwydiant llechi Cymru).
Gall gweithrediadau mwyngloddio greu effaith amgylcheddol negyddol, yn ystod y gweithgaredd mwyngloddio ac ar ôl i'r pwll gau. Felly, mae'r rhan fwyaf o wledydd y byd wedi pasio deddfau a rheoliadau i leihau'r effaith; fodd bynnag, mae rôl aruthrol mwyngloddio wrth gynhyrchu busnes ar gyfer cymunedau sy'n aml yn wledig, anghysbell neu ddirwasgedig yn economaidd yn golygu y gallai llywodraethau fethu â gorfodi rheoliadau o'r fath yn llawn. Mae diogelwch gwaith wedi bod yn bryder ers tro hefyd, a lle mae gorfodi arferion modern wedi gwella diogelwch mewn pyllau glo yn sylweddol. Ar ben hynny, mae mwyngloddio heb ei reoleiddio neu wedi'i reoleiddio'n wael, yn enwedig mewn economïau sy'n datblygu, yn aml yn cyfrannu at dorri hawliau dynol lleol a gwrthdaro.
Ers dechrau gwareiddiad, mae pobl wedi defnyddio carreg, clai ac, yn ddiweddarach, metelau a ddarganfuwyd yn agos at wyneb y Ddaear . Defnyddiwyd y rhain i wneud offer ac arfau cynnar; er enghraifft, defnyddiwyd fflint o ansawdd uchelledled Cymru a gwledydd eraill.[2] Mae mwyngloddiau fflint wedi'u darganfod mewn ardaloedd sialc lle'r oedd gwythiennau o'r cerrig yn cael eu dilyn dan ddaear gan siafftiau ac orielau. Mae'r mwyngloddiau yn Krzemionki yn arbennig o enwog, ac fel y rhan fwyaf o fwyngloddiau fflint eraill, maent yn dyddio o'r cyfnod Neolithig (c. 4000–3000 CC). Ond y mwynglawdd hynaf y gwyddys amdano ar gofnod archeolegol yw Mwynglawdd Ngwenya yn Eswatini (Swaziland), a brofwyd gan ddyddio radiocarbon di fod tua 43,000 o flynyddoedd oed. Ar y safle hwn bu pobl Paleolithig yn cloddio hematit i wneud pigment coch o'r enw ocr.[3] Credir bod mwyngloddo mor hynafol yn Hwngari, mewn safleoedd lle gallai Neanderthaliaid fod wedi cloddio fflint am arfau ac offer.[4]