Math | gwastraff diwydiannol, deunydd amgylcheddol anthropogenig, sludge |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn mwyngloddio, mwynlif (Saesneg: tailings) yw'r defnyddiau sy'n weddill ar ôl y broses o wahanu'r ffracsiwn gwerthfawr o fwynau oddi wrth y ffracsiwn aneconomaidd. Mae mwynlif yn wahanol i orlwyth, sef y graig wastraff neu ddeunydd arall sy'n gorwedd dros y mwyn neu'r mwynau ac sy'n cael ei ddadleoli yn ystod mwyngloddio heb gael ei brosesu.
Gellir echdynnu mwynau mewn dwy ffordd: mwyngloddio ponc dywod (Saesneg: placer mining) sy'n defnyddio dŵr a disgyrchiant i grynhoi'r mwynau gwerthfawr, neu fwyngloddio creigiau caled, sy'n malurio'r graig sy'n cynnwys y mwyn ac yna'n dibynnu ar adweithiau cemegol i grynhoi'r deunydd mewn un lle. Yn yr olaf, mae angen pylori'r mwynau, hy, malu'r mwyn yn ronynnau mân i hwyluso echdynnu'r elfennau a geisir. Oherwydd pyloriant, mae mwynlifau'n cynnwys slyri neu uwd o ronynnau mân, yn amrywio o faint gronyn o dywod i ychydig ficrometrau. Fel arfer cynhyrchir mwynlif o'r felin ar ffurf slyri, sy'n gymysgedd o ronynnau mwynol mân a dŵr.[1]
Gall mwynlifau fod yn ffynonellau peryglus o gemegau gwenwynig fel metalau trwm, sylffidau a chynnwys ymbelydrol. Mae'r cemegau hyn yn arbennig o beryglus pan gânt eu storio mewn dŵr pyllau y tu ôl i argaeau mwynlifol. Gall yr argaeau hyn dorri neu ollwng, gan achosi trychinebau amgylcheddol. Oherwydd y rhain a phryderon amgylcheddol eraill megis gollyngiadau dŵr daear, allyriadau gwenwynig a marwolaethau adar, mae 'r mwynlif a phyllau mwynlifol yn aml yn cael eu monitro'n ofalus iawn. Mae sawl dull o adennill gwerth economaidd o'r mwynlifau yma, ondl ar draws y byd, dulliau hyn yn wael, ac weithiau'n torri hawliau dynol. Er mwyn lleihau'r risg o niwed, sefydlwyd safon gan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer rheoli mwynlifau yn 2020.[2]