Mynydd Ararat

Mynydd Ararat
Delwedd:NEO ararat big.jpg, Mount Ararat and the Araratian plain (cropped).jpg, 00 2399 Mount Ararat, Turkey.jpg
Mathmynydd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
LL-Q9610 (ben)-Tahmid-আরারাত পর্বত.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAğrı Edit this on Wikidata
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Uwch y môr5,165 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.7°N 44.3°E Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd3,611 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd Damavand Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddArmenian Highlands Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethImportant Bird Area Edit this on Wikidata
Manylion

Mynydd Ararat (Twrceg: Ağrı Dağı) yw mynydd uchaf Twrci. Saif yn nhalaith Ağrı yng ngogledd-ddwyrain Twrci, rhyw 16 km o'r ffin ag Iran a 32 km o'r ffin ag Armenia.

Mae Ararat yn llosgfynydd, er nad yw wedi ffrwydro o fewn cof. Dr. Friedrich Parrot, gyda chymorth Khachatur Abovian, oedd y cyntaf i'w ddringo hyd y gwyddir, yn 1829. Gellir ei ddringo o'r de gyda chymorth bwyell eira a chramponau, ond mae'n rhaid cael caniatâd llywodraeth Twrci a defnyddio tywysydd lleol.

Mae Ararat yn enwog fel y lle y glaniodd Arch Noa yn y stori yn y Beibl, ac mae nifer o ymdrechion wedi eu gwneud i ddarganfod gweddillion yr arch ar y copa. Yn y 1950au llwyddodd De Navarre i ddarganfod darn o bren, ond dangosodd profion ei fod o ddyddiad diweddar.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne