![]() | |
Math | bryn, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 170 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.4°N 4.5°W ![]() |
Cod OS | SH3149790679 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 106 metr ![]() |
Rhiant gopa | Mynydd Bodafon ![]() |
![]() | |
Bryn ar Ynys Môn yw Mynydd y Garn. Ei uchder yw 170 metr. Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin Môn tua milltir a hanner o'r arfordir, tua hanner milltir i'r de o bentref Llanfair-yng-Nghornwy a thua 6 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Caergybi; cyfeiriad grid SH314906. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 60metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae llethrau uchaf y bryn yn greigiog. Creigiau Ordoficaidd yw sylfaen yr ysgwydd dde-orllewinol.
Ceir sawl safle archaeolegol o gwmpas y bryn, yn cynnwys meini hirion unigol o gyfnod Oes Newydd y Cerrig ac amddiffynfa Castell Crwn.
Gellir cyrraedd copa Mynydd y Garn trwy ddilyn un o sawl llwybr cyhoeddus, naill ai o ochr Llanfair-yng-Nghornwy neu o gyfeiriad Rhydwyn, i'r de.