Myrr

Y goeden Commiphora myrrha , un o'r prif goed a dyfir er mwyn cynaeafu Myrrh.
Mae Myrrh yn bur gyffredin yng Nghorn Affrica.
Olew a echdynnir allan o'r myrrh (Commiphora myrrha)

Resin persawrus yw myrr[1] neu lysiau'r gïau[2] a chaiff ei ystyried yn olew naws a elwir yn oleoresin. Adnabyddir hefyd gan yr enw creithig bêr, cegiden wen, a sisli bêr. Caiff ei gynaeafu o goed pigog, llawn drain y genws Commiphora.[3] Math o gwm naturiol yw resin myrr, sydd wedi cael ei ddefnyddio am ganrifoedd mewn persawr, arogldarth a meddyginiaeth, neu ar adegau drwy ei gymysgu â gwin.

Mae'r broses o gynaeafu myrr yn hawdd: gwneir twll yn rhisgl y goeden nes cyrhaeddir y gwynnin, a gwaeda'r goeden yn naturiol, ar ffurf resin hanner hylifol; dyma'r resin, sy'n hynod o debyf i thus. Mae cynaeafu'r goeden fel hyn yn anafu'r goeden ac mae'r resin yn caledu'n sydyn, gyda sglein arno. Mae hefyd yn melynnu a gall fod yn glir neu'n dryleu. Gyda thruliad amser mae'n tywyllu, gyda rhesin gwyn arno.[4]

  1.  myrr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
  2.  llysiau. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
  3. Patty C. Rice, Amber: Golden Gem of the Ages (Bloomington, IN: Author House, 2006), tud. 321
  4. Caspar Neumann a William Lewis, The Chemical Works of Caspar Neumann, M.D., 2il gol., cyf. 3 (Llundain, 1773), tud. 55

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne