Enghreifftiau o Nafacho ysgrifenedig ar arwyddion cyhoeddus. Clocwedd o'r gornel chwith uchaf: Adeilad Gwasanaethau Myfyrwyr Coleg Diné; arddangosfa lewod mynydd Sw'r Genedl Nafacho; canolfan siopa ym Mecsico Newydd; lleoedd parcio ar gadw yn Arisona | |
Enghraifft o: | iaith naturiol, iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Southern Athabaskan |
Enw brodorol | Diné bizaad |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | nv |
cod ISO 639-2 | nav |
cod ISO 639-3 | nav |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Cenedl Nafacho |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Navajo Language Academy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith Athabasgaidd yw Nafacho (Diné bizaad), a siaredir gan y bobl Nafacho yn ne-orllewin Unol Daleithiau America. Un o ieithoedd Athabasgaidd Deheuol yw hi, yn ddaearyddol ac yn ieithyddol, yn wahanol i'r rhan fwyaf o ieithoedd Athabasgaidd eraill, sy'n cael eu siaiard yng ngogledd-orllewin Canada ac Alasga.
Mae gan Nafacho ryw 120,000 i 170,700 o siaradwyr, sef mwy nag unrhyw iaith frodorol arall America i'r gogledd o'r ffin rhwng Mecsico a'r Unol Daleithiau.