Math | talaith India ![]() |
---|---|
Prifddinas | Kohima ![]() |
Poblogaeth | 1,978,502 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Neiphiu Rio ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | India ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 16,579 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Arunachal Pradesh, Assam, Manipur ![]() |
Cyfesurynnau | 26°N 95°E ![]() |
IN-NL ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Nagaland Legislative Assembly ![]() |
Corff deddfwriaethol | Nagaland Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Padmanabha Acharya ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Nagaland ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Neiphiu Rio ![]() |
![]() | |
Mae Nagaland neu Wlad y Nagas[1] yn dalaith ym mryniau coediog gogledd-ddwyrain eithaf India. Mae'n ffinio â thaleithiau Assam i'r gorllewin, Arunachal Pradesh a rhan o Assam i'r gogledd, gwlad Myanmar i'r dwyrain a thalaith Manipur i'r de. Kohima yw prifddinas Nagaland, a Dimapur yw'r ddinas fwyaf. Gyda phoblogaeth o 1,988,636, (2001) ac arwynebedd tir o 16,579 km² yn unig mae'n un o daleithiau lleiaf India. Cafodd ei sefydlu fel talaith yn 1963.
Mae'r dalaith wedi dioddef o ansefydlogrwydd gwleidyddol ers degawdau ac mae'n anodd cael caniatad i fynd yno. Ers i India ennill eu hannibyniaeth mae galwadau am annibyniaeth i Nagaland wedi dominyddu gwleidyddiaeth y dalaith sydd wedi gweld lefelau uchel o drais ar adegau.
Ar un adeg bu'r Naga yn adnabyddus fel helwyr pennau. Mae'r 16 o lwythau yn cynnwys yr Angamis, Rengmas, Aos, Konyaks, Wanchus, Semas a'r Lothas. Roedd ganddynt grefydd animistaidd cyn i'r cenhadon cyntaf gyrraedd o'r Gorllewin. Erbyn heddiw mae dros 90% o'r Nagas yn Gristnogion a Saesneg yw iaith swyddogol y dalaith, er bod nifer o ieithoedd brodorol yn cael eu siarad yn ogystal.