![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7828°N 3.1698°W ![]() |
Cod OS | SO195105 ![]() |
Cod post | NP13 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Alun Davies (Llafur Cymru) |
AS/au y DU | Nick Smith (Llafur) |
![]() | |
Pentref mawr yng nghymuned Nantyglo a Blaenau, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Nant-y-glo.[1][2] Saif ychydig i'r de o Fryn-mawr ac i'r gogledd o'r Blaenau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]
Yn y 19g, roedd Nant-y-glo yn un o ardaloedd cynhyrchu haearn pwysicaf y byd. Datblygwyd Gwaith Haearn Nant-y-glo gan Crawshay Bailey, ac erbyn tua 1844 roedd gweithfeydd haearn a glo y teulu yn cyflogi 3,000 o ddynion a 500 o wragedd a phlant.
Cadwai'r Siartydd Zephaniah Williams dafarn y Royal Oak yma. Gyda John Frost a William Jones, arweiniodd nifer fawr o wŷr o ardal Nant-y-glo i ddinas Casnewydd yn 1839. Roedd Beriah Gwynfe Evans yn enedigol o'r pentref.