![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 637, 658 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 5,598.32 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.3°N 3.4°W ![]() |
Cod SYG | W04000333 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Nantmel.[1][2] Saif y pentref ar briffordd yr A44 ychydig i'r de-ddwyrain o dref Rhaeadr Gwy. Heblaw pentref Nantmel ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Nant Glas.
Roedd James Watt, dyfeisydd y peiriant ager, yn byw yn Noldowlod gerllaw, ac mae ei ddisgynyddion yno o hyd. Hefyd yn y gymuned yma mae fferm Gigryn, lle mae bwydo'r Barcud coch yn atyniad adnabyddus.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 686.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]