Nastassja Kinski | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Nastassja Kinski ![]() |
Ganwyd | Nastassja Aglaia Nakszynski ![]() 24 Ionawr 1961 ![]() Gorllewin Berlin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | model, actor ffilm, actor llais ![]() |
Tad | Klaus Kinski ![]() |
Partner | Quincy Jones, Ibrahim Moussa, Ilia Russo ![]() |
Plant | Sonja Kinski, Kenya Kinski-Jones, Aljosha Nakzynski ![]() |
Perthnasau | Lara Naszinsky ![]() |
Gwobr/au | Golden Globes ![]() |
Actores o'r Almaen yw Nastassja Kinski (enw llawn: Nastassja Aglaia Kinski ), a chyn-fodel sydd wedi ymddangos mewn mwy na 60 o ffilmiau yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Fe'i ganed ar 24 Ionawr 1961[1][2]
Ei ffilm cyntaf oedd Falsche Bewegung pan oedd yn 12 oed a'i llwyddiant byd-eang cyntaf oedd Stay as You Are (1978). Enillodd Wobr Golden Globe fel y prif gymeriad yn y ffilm Tess (1979) a gyfarwyddwyd gan Roman Polanski. Ymhlith y ffilmiau eraill y bu'n actio ynddynt mae'r ffilm arswyd erotig Cat People (1982) a'r dramâu Wim Wenders Paris, Texas (1984) a Faraway, So Close! (1993). Ymddangosodd hefyd yn y ffilm ddrama fywgraffyddol An American Rhapsody (2001). Mae hi'n ferch i'r actor Almaenig Klaus Kinski.