Actor Rwandaidd-Albanaidd yw Mizero Ncuti Gatwa (/ˈʃuːtiˈɡætwɑː/SHOO-tee GAT-wah[1]; ganwyd 15 Hydref1992). Daeth i amlygrwydd fel Eric Effiong ar y gyfres gomedi-ddrama Sex Education ar Netflix, a enillodd iddo Wobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu a thri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau.[2][3][4][5][6] Yn 2022, cyhoeddwyd Gatwa fel ymgnawdoliad newydd o gymeriad y Doctor ar y gyfres BBCDoctor Who, sy'n golygu mai ef yw'r actor du cyntaf i arwain y gyfres.[7]