Neifion (symbol: ) yw'r wythfed blaned oddi wrth yr Haul. Mae Neifion yn llai ei thryfesur nag Wranws ond yn fwy ei chrynswth. Hi yw'r lleiaf, yr oeraf a'r bellaf o'r pedair blaned fawr a elwir yn gewri nwy – er y byddai cewri rhew yn well disgrifiadau o Wranws a Neifion am fod y nwyon, sydd â'r rhan amlycaf yn eu cyfansoddiad, wedi rhewi'n gorn bron i gyd.
Duw yr eigion yw Neifion ym mytholeg Rufeinig.
Gwelwyd y blaned Neifion gan y seryddwr Galileo yn 1612, ond camdybiodd ei fod e'n edrych ar blaned, gan gymryd ei bod yn seren.