Nellie Melba | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Nellie Melba ![]() |
Ganwyd | Helen Porter Mitchell ![]() 19 Mai 1861 ![]() Melbourne, Richmond ![]() |
Bu farw | 23 Chwefror 1931 ![]() Sydney ![]() |
Dinasyddiaeth | Awstralia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, hunangofiannydd ![]() |
Arddull | opera ![]() |
Math o lais | soprano leggero ![]() |
Tad | David Mitchell ![]() |
Mam | Isabella Ann Dow ![]() |
Priod | Charles Nesbitt Frederick Armstrong ![]() |
Plant | George Nesbitt Armstrong ![]() |
Gwobr/au | Boneddiges yr Uwch Groes o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Rol Anrhydeddus Fictorianaidd i Ferched ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cantores opera soprano o Awstralia oedd y Fonesig Nellie Melba GBE (ganwyd Helen Porter Mitchell, 19 Mai 1861 – 23 Chwefror 1931). Daeth yn un o gantoresau enwocaf yn y byd tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g. Hi oedd y person cyntaf o Awstralia i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel cerddor clasurol. Cymerodd y ffugenw "Melba" o Melbourne, ei thref enedigol.
Astudiodd Melba ganu yn Melbourne a gwneud llwyddiant cymedrol mewn perfformiadau yno. Ar ôl briodas fer ac aflwyddiannus, symudodd i Ewrop ym 1886 i chwilio am yrfa ganu. Astudiodd ym Mharis ac yn fuan daeth yn llwyddiannus yno ac ym Mrwsel. Ym 1888 enillodd enw fel y soprano ysgafn flaenllaw yn Llundain yn y Opera Brenhinol Eidalaidd, Covent Garden. Fe wnaeth ei debut yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd ym 1893.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cododd Melba symiau mawr o arian ar gyfer elusennau rhyfel. Dychwelodd i Awstralia yn aml yn ystod yr 20g, gan ganu mewn opera a chyngherddau a dysgu canu ym Melbourne Conservatorium. Parhaodd i ganu tan fisoedd olaf ei bywyd a gwneud llawer o ymddangosiadau "ffarwel". Roedd ei hangladd yn ddigwyddiad cenedlaethol pwysig.
Mae ei henw yn gysylltiedig â phedair bwyd, a grëwyd pob un ohonynt er anrhydedd iddi gan y cogydd Ffrengig Auguste Escoffier: